Diagram Euler

Cymharu dau fath o ddiagramau: Diagram Euler (chwith) a Diagram Venn (dde).

Dull diagramatig o gynrychioli setiau, a'u perthynas, yw diagram Euler. Fel arfer, maent yn cynnwys siapiau sy'n gorgyffwrdd, a gellir eu graddio fel bod ardal y siâp yn gymesur â nifer yr elfennau y mae'n ei chynnwys. Maent yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer esbonio hierarchaeth cymhleth a diffiniadau sy'n gorgyffwrdd. Yn aml maent yn cael eu camgymryd am ddiagramau Venn.

Yn wahanol i'r diagram Venn, sy'n dangos yr holl gysylltiadau posibl rhwng gwahanol setiau, yn niagram Euler dim ond y perthnasau perthnasol sy'n cael eu dangos.

Mae diagramau Euler yn cynnwys siapiau caeedig syml mewn plân dau ddimensiwn gyda phob un yn dangos set neu gategori. Mae sut mae'r siapiau hyn yn gorgyffwrdd, neu ddim yn gorgyffwrdd, yn dangos y berthynas rhwng y setiau. Dim ond tair perthynas bosibl sydd rhwng unrhyw ddwy set: yn gwbl gynhwysol, yn rhannol gynhwysol, ac yn unigryw. Cyfeirir at hyn hefyd fel "cynhwysiad", "gorgyffwrdd" neu'r "dim perthynas". Weithiau, cyfeirir at y tri hyn fel: "is-set", "croestorriad" a "datgysylltiad" (subset, intersection a disjoint).


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search